Rho gymhorth imi, O fy Nuw,
I'th bur was'naethu tra f'wyf byw;
Trwy barch ac anmharch
îs y ne',
Rho nerth i'r eiddil
gadw'i le.
Trwy nerth dy ras,
O Arglwydd cu,
'Rwy'n rhoi fy hunan oll i ti;
Fy mywyd, tra f'wyf yn y byd,
Wyf yn gysegru iti ' gyd.
Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844
Tôn [MH 8888]: Ernan (Lowell Mason 1792-1872) gwelir: Trwy nerth dy ras O Arglwydd cu |
Give help to me, O my God,
Purely to serve thee while ever I live;
Through honour and dishonour
under heaven,
Give strength for the weak
to keep his place.
Through the strength of thy grace,
O dear Lord,
I am giving myself wholly to thee;
My life, while ever I am in the world,
I am consecrating it all to thee.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|